#

 

 

 

 

 


Rhif y ddeiseb: P-05-  699

Teitl y ddeiseb: Cronfa Triniaethau i Gymru - rhaid dod â'r Loteri Cod Post ynghylch Iechyd i ben

Testun y ddeiseb: Un o'r datblygiadau pwysicaf a ddaeth o Gymru erioed oedd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae'n un o'n hasedau mwyaf gwerthfawr ac mae'n rhaid i ni gadw gafael ynddo. Ar hyn o bryd, rydym mewn sefyllfa anobeithiol lle nad yw mynediad at driniaethau sy'n defnyddio cyffuriau costus sy'n achub bywyd ar gael mewn ffordd deg neu gyfartal ledled Cymru. Mae cleifion sydd ag angen dybryd am gyffuriau i achub eu bywydau yn cael eu hatal gan eu Byrddau Iechyd Lleol rhag cael mynediad at y triniaethau sydd eu hangen arnynt ar gymaint o frys, gan arwain at ganlyniadau difrifol i'w hiechyd a'u disgwyliad oes. Rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu eu gweithdrefnau o ran sancsiynu triniaethau costus ar unwaith. Yn ogystal â hyn, galwaf ar Lywodraeth Cymru i asesu pob claf ac anghenion pob claf fesul achos oherwydd, ar hyn o bryd, rhaid i’r holl gyffuriau a ariennir fel rhan o’u triniaeth ymddangos ar restr o 'Gyffuriau Cymeradwy,' ac mae’r gofyniad hwn yn rhy gul ac mae’n atal cleifion rhag cael triniaethau nad ydynt eto ar y rhestr triniaethau ond a fyddai, yn ôl meddygon ymgynghorol, yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd hirdymor a disgwyliad oes cleifion.

Cefndir

Arfarnu meddyginiaethau

Cyn y caiff meddyginiaethau newydd eu defnyddio fel mater o drefn i drin cleifion y GIG, cynhelir proses arfarnu i benderfynu a yw'r budd i gleifion yn cyfiawnhau'r gost.

Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Iechyd a Gofal (NICE) yn rhoi cyngor i'r GIG ynghylch effeithiolrwydd rhai meddyginiaethau sydd newydd eu trwyddedu, a hynny o safbwynt clinigol ac o safbwynt y gost. Mae sail statudol i'r cyngor hwn yng Nghymru a Lloegr, ac mae rheidrwydd cyfreithiol ar fyrddau iechyd Cymru i ariannu meddyginiaethau y bydd NICE yn eu cymeradwyo.

Un o gyfrifoldebau Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) yw arfarnu meddyginiaethau newydd nad ydynt yn rhan o raglen waith NICE. Mae rheidrwydd cyfreithiol ar fyrddau iechyd Cymru i ariannu meddyginiaethau a gymeradwywyd gan AWMSG hefyd.

Cronfa Cyffuriau Canser

Yn Lloegr, mae'r Gronfa Cyffuriau Canser yn ariannu nifer o feddyginiaethau canser nad ydynt ar gael drwy'r GIG. Drwy gydol y Pedwerydd Cynulliad, gwrthododdLlywodraeth Cymru alwadau i sefydlu cronfa debyg. Ym marn y Llywodraeth, roedd y gronfa’n gwahaniaethu yn erbyn cyflyrau iechyd eraill, adywedodd nad yw cleifion yn Lloegr wedi cael mwy o feddyginiaethau newydd a chost effeithiol na chleifion yng Nghymru o ganlyniad i’r gronfa.

Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR)

Os nad yw meddyginiaeth benodol wedi’i chymeradwyo gan NICE neu AWMSG i’w defnyddio’n gyffredinol drwy GIG Cymru, gall clinigydd anfon Cais Cyllido Claf Unigol (IPFR) at fwrdd iechyd.  Caiff y ceisiadau hyn eu hystyried yn ôl pa mor ‘eithriadol’ yw’r achos. Cyhoeddwyd polisi IPFR Cymru gyfan yn 2011, er mwyn ceisio sicrhau cysondeb yn y modd y gwneir penderfyniadau.

Mae’r broses hon wedi’i beirniadu’n gyson.  Clywodd yr ymchwiliad canser a gynhaliodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Pedwerydd Cynulliad yn 2014 ei bod yn bosibl bod paneli IPFR y byrddau iechyd yn ymdrin â cheisiadau mewn ffyrdd gwahanol, ac argymhellodd y Pwyllgor fod panel IPFR cenedlaethol yn cael ei sefydlu er mwyn sicrhau cysondeb a thegwch ledled Cymru.  Comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad (a gyhoeddwyd yn 2014) a wnaeth nifer o argymhellion i gryfhau'r broses IPFR, ond nid oedd yn argymell creu un panel IPFR ar gyfer Cymru gyfan.

Mae Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan wedi sefydlu llwybr ariannu posibl ar gyfer rhai triniaethau newydd yng Nghymru. Drwy’r broses hon, bydd modd comisiynu meddyginiaethau dros dro ar gyfer carfannau penodol o gleifion, cyhyd ag y bo’r gwneuthurwyr ymrwymo i gymryd rhan mewn arfarniad dilynol gan AWMSG neu NICE. Rhagwelir na fyddai'r broses hon yn cael ei ddefnyddio yn aml. Un enghraifft o’r modd y defnyddiwyd y broses hon yn ddiweddar oedd y penderfyniad i ganiatáu i feddygon ddefnyddio docetaxel, y cyffur cemotherapi, yn gynharach i drin cleifion canser y brostad yng Nghymru

 

Y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd

Ar  12 Gorffennaf, 2016 , dywedodd Vaughan Gethin AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon, fod Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â dau fesur i helpu i sicrhau bod cleifion yng Nghymru yn cael yr un driniaeth lle bynnag y maent yn byw. Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Cronfa Triniaethau Newydd yng Nghymru, a ddylai fod yn weithredol erbyn Rhagfyr 2016:

  
Bydd £80 miliwn ar gael yn ystod oes y Llywodraeth hon i sicrhau bod meddyginiaethau newydd ar gael sy'n mynd i'r afael ag anghenion clinigol sydd heb eu diwallu, ac sy’n gam sylweddol ymlaen ar gyfer trin clefydau sy'n bygwth bywyd a chlefydau sy'n cyfyngu ar fywyd. Bydd hyn yn cael ei ddarparu yn gyson ar draws Cymru cyn gynted ag y bo modd yn dilyn argymhelliad cadarnhaol gan naill ai NICE neu AWMSG.

Cadarnhaodd yr Ysgrifennydd y Cabinet hefyd y caiff adolygiad annibynnol o'r broses IPFR ei gynnal, gan nodi:

Mae proses IPFR GIG Cymru wedi ei gwella yn dilyn adolygiad yn 2013-14. Cynhelir adolygiad pellach yn awr i sicrhau gwell cysondeb o ran penderfyniadau ledled Cymru ac i wneud argymhellion ynghylch pa feini prawf clinigol y dylid eu cymhwyso wrth benderfynu pwy sy'n gymwys.

 [...]Bydd yr adolygiad yn ystyried yn benodol y meini prawf eithriadoldeb clinigol a'r posibilrwydd o sefydlu un panel IPFR cenedlaethol.

Rwyf yn dymuno gweld adolygiad byr sy’n canolbwyntio'n benodol ar fynd i'r afael â'r materion hyn, a byddaf yn rhoi diweddariad pellach i'r Aelodau ym mis Medi. 

 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.  Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru na'u diwygio o reidrwydd i adlewyrchu newidiadau dilynol.